Rhifyn Dwyieithog cyntaf o Floedd y Gad wedi’i gyhoeddi

published on 12 Jun 2024

Mae rhifyn dwyieithog cyntaf o Floedd y Gad, papur newydd eiconig Byddin yr Iachawdwriaeth, wedi cael ei gyhoeddi wrth i’r eglwys a'r elusen ddathlu 150 o flynyddoedd yn cefnogi cymunedau a phobl fregus yng Nghymru. 

Mae’r rhifyn dwyieithog newydd hwn yn garreg filltir i Fyddin yr Iachawdwriaeth. Mae cynnwys Cymraeg y rhifyn yn y blaen ac yna mae’r un cynnwys yn y Saesneg yng nghefn y rhifyn. Y Capten Deryk Durrant, arweinydd yr eglwys yn Wrecsam oedd â’r dasg o gynhyrchu’r rhifyn arbennig hwn i nodi’r pen-blwydd eleni. 

Dywedodd Deryk Durrant:   

“Penderfynon ni fod angen rhywbeth arbennig i nodi pen-blwydd Byddin yr Iachawdwriaeth yn 150 trwy gydol 2024. Er bod rhifynnau o Floedd y Gad wedi’u cyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg ar wahân eisoes, doedd dim ymgais wedi bod i greu rhifyn dwyieithog. Cefais fy’m hysbrydoli i gynhyrchu Bloedd y Gad trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn rhannu’r efengyl trwy’r iaith hynafol ond hynod fyw hon.” 

Cafodd Bloedd y Gad ei gyhoeddi yn y Saesneg am y tro cyntaf yn 1879. Rhyw ddeng mlynedd yn ddiweddarach, cafodd rhifynnau cyfrwng Cymraeg eu cyhoeddi gyda’r teitl Y Gad Lef. Mae rhai o’r rhifynnau hyn, yn dyddio o 1889, wedi cael eu rhoi fel rhodd i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, fel rhan o ddathliadau’r flwyddyn hon. Am y tro cyntaf ers canrif, yn 2018 cafodd rhifyn Cymraeg arall o dan y teitl Bloedd y Gad ei gyhoeddi.  

The Welsh version of War Cry
Cefais fy’m hysbrydoli i gynhyrchu Bloedd y Gad trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn rhannu’r efengyl trwy’r iaith hynafol ond hynod fyw hon
Y Capten Deryk Durrant, Wrecsam 

Mae’r rhifyn dwyieithog arbennig hwn wedi cael ei brintio gan y cyhoeddwr Cymraeg Y Lolfa sydd wedi'i leoli yn Nhalybont ger Aberystwyth. Roedd angen cyhoeddwr a oedd yn gallu printio yn y Gymraeg a hefyd gwneud yn sicr bod y ddau fersiwn yn gwneud synnwyr. Dywedodd Paul Williams, Rheolwr Cynhyrchu, bod ef a’i dîm wedi mwynhau gweithio ar y prosiect: 

“Mae wedi bod yn fraint i sicrhau bod rhifyn dwyieithog o Floedd y Gad ar gael am y tro cyntaf yng Nghymru ac mae wedi bod yn bleser i gyd-weithio â Byddin yr Iachawdwriaeth ar y prosiect. Aeth popeth yn dda iawn. Gweithiodd Deryk Durrant gyda’n dylunydd a’n cyffeithydd ac roedd yn broses a symudodd yn weddol gyflym er mwyn cyrraedd camau olaf y cynhyrchiad.” 

Bilingual War Cry

Er mwyn bachu copi o’r rhifyn dwyieithog hwn o Floedd y Gad, ewch i’ch canolfan Byddin yr Iachawdwriaeth agosaf. Gallwch ddod o hyd iddo drwy’r linc hwn: www.salvationarmy.org.uk/map-page neu trwy alw (020) 7367 4500.