War Cry – in Welsh for the first time in 130 years - Bloedd y Gad – yn y Gymraeg am y tro cyntaf mewn 130 o flynyddoedd
published on 14 Dec 2018
Bloedd y Gad – yn y Gymraeg am y tro cyntaf mewn 130 o flynyddoedd
Mae rhifyn Cymraeg CYNTAF o Floedd y Gad – papur newydd wythnosol Byddin yr Iachawdwriaeth – mewn ymron i 130 o flynyddoedd ar werth yn awr yn barod at y Nadolig.
Argraffwyd War Cry am y tro cyntaf 139 o flynyddoedd yn ôl yn Llundain ym mis Rhagfyr 1879 ac mae wedi’i gyhoeddi bob wythnos ers hynny yn ddi-ffael.
Mae’r papur wedi cynnwys straeon am waith Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghymru – o’r gefnogaeth y mae wedi’i darparu i gymuned Aberfan ar ôl trychineb 1966, i’w phresenoldeb yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru y llynedd.
Ond dyma’r tro cyntaf ers cyhoeddi rhifyn Cymraeg yng Nghaernarfon yn 1889, y mae Bloedd y Gad ar gael yn Gymraeg.
“Mae ‘Bloedd y Gad’ yn garreg filltir i Fyddin yr Iachawdwriaeth, sydd wedi bod yn gwasanaethu cymunedau ar draws Cymru ers dros 140 o flynyddoedd,” dywed yr Uwchgapten George Baker – arweinydd Adran De a Chanolbarth Cymru o Fyddin yr Iachawdwriaeth.
“Ac mae’n addas bod y rhifyn arbennig hwn o ‘Floedd y Gad’ – rhifyn Nadoligaidd, yn cael ei gyhoeddi yn Gymraeg – calon cymaint o gymunedau yr ydym ni’n rhan ohonynt, ar adeg y flwyddyn pan rydym yn dathlu newyddion da y Nadolig ac mae ein calonnau yn llawn o ysbryd y Nadolig.”
Mae ‘Bloedd y Gad’ yn cynnwys neges dymhorol gan y Cadfridog Brian Peddle, arweinydd rhyngwladol Byddin yr Iachawdwriaeth, sy’n ysgrifennu am neges o obaith y mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn ei chyflwyno i’r 131 o wledydd o amgylch y byd.
Mae erthygl am lyfr newydd Byddin yr Iachawdwriaeth o alawon Nadolig, sydd ochr yn ochr â cherddoriaeth fwy traddodiadol Byddin yr Iachawdwriaeth, yn cynnwys trefniadau pres o ganeuon gan gynnwys ‘Merry Xmas Everybody’ gan Slade.
Mae’n cynnwys nodwedd am dyfwyr coed Nadolig, Helen a Lester Bowker, a’r busnes a sefydlwyd ganddynt yn 2000 a’u 25 erw yn Cotley Farm yn Nyfnaint, a Gary Grant – sylfaenydd cadwyn o siopau teganau The Entertainer yn siarad am ei genhadaeth i addysgu plant am stori’r Nadolig.
Bydd darllenwyr hefyd yn gweld stori am Paul Hernandez, 44 oed, sy’n dioddef o epilepsi gwanychol ac sydd ag anghenion addysgol arbennig, sydd wedi dod o hyd i swydd yn awr ac sydd wedi dod o hyd i ddiben mewn bywyd, diolch i Fyddin yr Iachawdwriaeth.
Mae ‘Bloedd y Gad’ ar gael mewn neuaddau Byddin yr Iachawdwriaeth ar draws Cymru am 20c.
Argraffdy Y Lolfa yn Nhal-y-bont ger Aberystwyth argraffodd ‘Bloedd y Gad’.
War Cry – in Welsh for the first time in 130 years
The first Welsh language edition of War Cry - The Salvation Army’s weekly newspaper - in almost 130 years is on sale now in time for Christmas.
War Cry first came off the printing presses 139 years ago in London in December 1879 and it has been published every week ever since without fail.
The paper has carried stories about The Salvation Army’s work in Wales – from the support it provided for the community of Aberfan in the wake of the disaster in 1966, to its presence at the National Eisteddfod of Wales last year.
But this is the first time since the publication of a Welsh language edition in Caernarfon in 1889, that War Cry is available in Welsh.
“‘Bloedd y Gad’ is a milestone for The Salvation Army, which has been serving communities across Wales for over 140 years,” said Major George Baker – leader of The Salvation Army’s South and Mid Wales Division.
“And it’s fitting that this particular edition of ‘Bloedd y Gad’ – a festive edition, is being published in Welsh – the language of the heart of so many of the communities of which we are a part, at a time of year when we are in tune with the good news of Christmas and our hearts are full of the spirit of Christmas”.
‘Bloedd y Gad’ contains a seasonal message from General Brian Peddle, the international leader of The Salvation Army, in which he writes about the message of hope The Salvation Army is bringing to 131 countries around the world.
There’s an article about the new Salvation Army book of Christmas tunes, which alongside more traditional Salvation Army festive music, contains brass arrangements of songs including ‘Merry Xmas Everybody’ by Slade.
It features a piece about Christmas tree-growers Helen and Lester Bowker and the business they began in 2000 on their 25 acres at Cotley Farm in Devon, and Gary Grant – founder of The Entertainer chain of toy shops is in there talking about his mission to teach children the Christmas story.
Readers will also find a story about 44-year-old Paul Hernandez who suffers with debilitating epilepsy and has special education needs, who has now found a job and been given a sense of purpose in life, thanks to The Salvation Army.
The one-off festive edition of ‘Bloedd y Gad’ is available at Salvation Army halls across Wales for 20p.
Y Lolfa publishing house in Talybont near Aberystwyth printed ‘Bloedd y Gad’.